To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

BEDYDD

O ddechreuadau’r Eglwys Gristnogol, Bedydd fu'r ffordd i bobl ddod yn Gristnogion ac yn aelodau o’r Eglwys.  Mae'r Efengylau'n dweud wrthym fod Iesu ei hun wedi cael ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr yn afon yr Iorddonen a bod yr Iesu wedi dysgu i'w ddisgyblion fynd allan i'r byd a bedyddio. Mae Iesu'n dysgu ei bobl bod yn rhaid i bawb sydd am gael mynediad i'w deyrnas gael eu geni drachefn o ddŵr ac o’r Ysbryd. Bedydd yw arwydd a sêl yr enedigaeth newydd hon.

font

Mae tair elfen bwysig i gael eich derbyn fel Cristion - y bedydd ei hun, conffyrmasiwn, ac ymuno â theulu addoli'r Eglwys, lle mae Cristnogion yn derbyn y Cymun Sanctaidd yn rheolaidd, sef corff a gwaed Crist.

Mae'n rhaid meithrin y rhai sy'n cael eu bedyddio fel plant yn y ffydd, eu cynnal trwy weddi a'u croesawu i fywyd o addoliad ac o wasanaethu’r Eglwys ac yn ddiweddarach, eu Conffyrmio (yr Esgob sy’n gwneud hyn). Ond pan fydd unigolion yn gallu ateb drostynt eu hunain, dylai'r cam o ymuno â theulu'r Eglwys fod trwy un weithred o gael eu derbyn lle mae Bedydd, Conffyrmasiwn a'r Cymun (Cymun Sanctaidd), gyda'i gilydd, yn mynegi'r weithred o:

  • droi cefn ar dywyllwch a phechod,
  • troi at Grist,
  • taenelliad neu drochiad yn nyfroedd y bedydd,
  • yr Esgob yn arddodi dwylo
  • cymryd rhan yn nheulu Cymunol yr Eglwys.

Dylid bedyddio fel arfer mewn eglwys yn ystod y Cymun. Taenellir dŵr dros ben y sawl sy'n cael ei fedyddio deirgwaith yn Enw Duw, y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân. Lle'n bosibl, gellir bedyddio'r rhai sy'n hŷn trwy fedydd trochiad mewn dŵr, fel pwll bedyddio. Mae'r weithred o fedyddio'n arwydd ein bod yn cymryd rhan ym marwolaeth yr Iesu a'i Atgyfodiad. Gan iddo farw a chael ei gladdu, rydyn ni'n suddo'n symbolaidd i'r dŵr bedyddio gydag ef. A chan iddo godi o farw'n fyw, rydyn ni'n codi o'r dŵr yn symbolaidd yn ei rym atgyfodol ef, wedi'n hadnewyddu. Dyna pam y gelwir bedyddio'n Sacrament y Pasg yn aml ac mae iddo ystyr arbennig pan mae'n digwydd yn ystod y Pasg ar ôl cyfnod o baratoi yn ystod cyfnod y Grawys.

Pan fydd plant yn cael eu bedyddio, mae eu rhieni a'u rhieni bedydd, a ddewisir yn ofalus, yn ymrwymo i gyfrifoldebau penodol. Dyna pam y mae rhieni a rhieni bedydd fel rheol yn cael eu helpu a'u cynorthwyo ymlaen llaw i ddeall eu cyfrifoldebau. Mae gan yr Eglwys leol swyddogaeth bwysig hefyd i'w cynorthwyo i feithrin eu plentyn yn y bywyd newydd y mae Bedydd yn ei gynnig.

Mae'r Eglwys yng Nghymru'n cydnabod bod hen batrymau sefydledig yn cyflwyno ffordd gwbl newydd o feddwl i deuluoedd a'u cymunedau. Nid yw llawer o blant sy'n cael eu bedyddio yn mynd drwy’r conffyrmasiwn, fel yr arferai ddigwydd, ac nid yw'r berthynas agos honno rhwng yr Eglwys a theuluoedd yn cael ei chynnal. Hefyd, byddai rhai am y cyfle i roi diolch ar enedigaeth eu plentyn a byddai’n well ganddynt adael i’r plentyn ddewis a yw am gael ei fedyddio a’i gonffyrmio yn nes ymlaen, pan fydd yn oedolyn.

Mae'r Eglwys yn darparu i blant gael eu bedyddio yn y gobaith a'r ymddiriedaeth y bydd rhieni a'r eglwys leol gyda'i gilydd yn eu hamgylchynu gyda ffydd fyw a fydd yn eu cynnal gydol eu hoes. Mae'r Eglwys hefyd yn darparu ar gyfer y rhai sy'n ymuno â'r bywyd Cristnogol o'r newydd, gan eu cefnogi, eu cyfarwyddo, eu dysgu a'u hannog wrth iddynt dderbyn gras yr Ysbryd Glân.

Yn ystod pob cam o ddod yn Gristion, mae'n bwysig bod pawb dan sylw'n paratoi'n gywir. Anogir rhieni a rhieni bedydd plant ifanc i ddeall yn llawn eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau i ddarllen y Beibl, gweddïo ac addoli'n rheolaidd, fel esiampl i'w plentyn. Disgwylir i blant hŷn ac oedolion sy'n cael eu bedyddio gymryd rhan mewn cwrs o gyfarwyddyd a pharatoad yn yr Eglwys. Mae aelodau'r eglwys leol yn gyfrifol am annog a chynorthwyo pawb sy'n dod at Grist, trwy osod esiampl. Hwyrach y byddant yn bresennol yn ystod pob cam o'r broses hon, i groesawu a chynnwys y rhai sydd newydd gael eu bedyddio a'u conffyrmio yng nghymdeithas yr Arglwydd Iesu Grist.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.