To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

GWASANAETH BEDYDD

Cyn bedyddio plentyn (gweler isod), gofynnir i rieni a rhieni bedydd gyfarfod â'r offeiriad neu aelodau'r eglwys leol a fydd yn cynorthwyo gyda'r paratoadau, gan roi esboniadau gofalus am ystyr bedydd ac am gyfrifoldebau rhieni a rhieni bedydd. Gwneir addewidion difrifol yn ystod Bedydd, ac mae'n bwysig bod rhieni a rhieni bedydd yn deall dyfnder ac arwyddocâd yr addewidion hyn. Efallai y bydd cwrs cyfarwyddo arbennig ac awgrym o'r adeg fwyaf addas i gynnal y bedydd. Os cynhelir Conffyrmasiwn Plwyf, efallai yr awgrymir y dylai'r bedydd fod yn rhan o ddathliad ehangach y plwyf, yn enwedig yn ystod Tymor y Pasg. 

Pan fydd Bedydd a Chonffyrmasiwn yn cael eu cynnal yn yr un gwasanaeth, yr Esgob sy'n arwain y gwasanaeth. Pan fydd Bedydd yn cael ei gynnal ar ei ben ei hun, un o glerigwyr y plwyf fydd yn arwain.

Mae'r gwasanaeth yn dilyn trefn yr adrannau canlynol:

  1. Y DOD YNGHYD Lle croesawir y teulu ac y dywedir wrthynt am lawenydd arbennig yr achlysur, iddyn nhw a'r teulu Cristnogol ehangach.
    • Gofynnir i'r rhieni dderbyn ar ran eu plant y gred bod bedydd yn ein haileni fel plant Duw, yn ein gwneud yn ddilynwyr Crist, yn aelodau o'i gorff, yr Eglwys ac yn etifeddion teyrnas nefoedd.
    • Gofynnir iddynt gynorthwyo eu plentyn i gadw gorchmynion Duw i garu Duw a'u cymydog. Gofynnir iddynt fod yn esiampl o'r ffordd Gristnogol o fyw i'w plant.
    • Gofynnir i rieni bedydd gefnogi rhieni'r plentyn ym mhopeth y ceisiant ei wneud. Gofynnir i'r gynulleidfa groesawu'r plentyn a'i gynnal yn ei fywyd yng Nghrist.
  2. Mae CYHOEDDI'R GAIR yn rhoi'r Bedydd yng nghyd-destun y Beibl. Mae gwrando ar air Duw yn y Beibl a myfyrio arno'n ganolog i'r Ffydd Gristnogol.
    • Yn y rhan hon o'r gwasanaeth, rydyn ni'n gwrando ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud wrthym am waith achubol Duw trwy Iesu Grist.
  3. Mae'r LITWRGI BEDYDD yn gofyn i rieni a rhieni bedydd ymateb i alwad Crist, gan droi at Grist ac edifarhau am eu pechodau ac ymwrthod â drygioni.
    • Yn y rhan hon, gweddïwn y bydd y plentyn sy'n cael ei fedyddio yn cael ei wared rhag drwg a, gyda goleuni a llawenydd, yn cael ei lenwi ag Ysbryd Glân Duw.
    • Gwneir arwydd y Groes ar y plentyn – eiliad hyfryd, lle mae'r Eglwys yn hawlio'r plentyn dros Grist yng ngrym ei gariad a ddangoswyd mor rhyfeddol ar y Groes.                                                                  
    • Fel ymateb i hyn, gofynnir i'r rhieni a'r Rhieni Bedydd arddel y Ffydd Gristnogol gyda'i gilydd, gan siarad ar ran eu plentyn, gan gadarnhau gyda'r holl deulu Cristnogol Ffydd yr Eglwys mewn Un Duw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân.
    • Mae'r dŵr yn cael ei fendithio gyda geiriau sy'n dwyn i'r cof adegau o rym achubol sy'n gysylltiedig â dŵr yn y Beibl, yn cynnwys bedydd yr Iesu ei hun yn afon yr Iorddonen, a gofynnwn i Dduw eneinio'r plentyn gyda'r Ysbryd Glân a dod â'r plentyn i enedigaeth newydd yn nheulu'r Eglwys.
    • Yna, mae'r plentyn yn cael ei fedyddio gyda dŵr, a gellir ei eneinio gydag olew Crism fel arwydd a sêl yr Ysbryd Glân.
    • Mae cannwyll yn cael ei chynnau i ddangos bod goleuni Crist wedi dod i fywyd y plentyn sydd newydd gael ei fedyddio ac sy'n cael ei gymeradwyo i gerdded yn y goleuni hwn am weddill ei oes, gan ddisgleirio gogoniant Duw allan i'r byd.
  4. Y TANGNEFEDD yw'r rhan o'r gwasanaeth lle cynigir tangnefedd Crist i bawb sy'n bresennol.
  5. Adroddir GWEDDÏAU ar ran y plentyn sydd newydd gael ei fedyddio a'r rhai sy'n gofalu am y plentyn. Efallai yr adroddir gweddïau ar ran y teulu ehangach, gan roi diolch am y ffydd a'r anogaeth a ddangoswyd i ni yn ystod ein bywydau ein hunain.
  6. Mae'r ANFON ALLAN yn cloi'r gwasanaeth gan ymddiried y gall pob un ohonom fyw yn y ffydd, cerdded mewn gobaith a chael ein hadnewyddu mewn cariad nes bod yr holl fyd yn adlewyrchu gogoniant Duw'n llawn.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.