To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

CONFFYRMASIWM - Cwestiynau cyffredin

  • Sut alla i ddarganfod sut i ymuno â grŵp paratoi ar gyfer conffyrmasiwn?
    • Gofynnwch i'ch offeiriad lleol. Bydd yn gallu rhoi gwybod i chi pryd y cynhelir grwpiau paratoi.
  • Os ydw i'n mynychu grŵp conffyrmasiwn, oes rhaid i mi gael fy nghonffyrmio?
    • Nac oes, byddwch yn gallu penderfynu os ydych chi am gael eich conffyrmio ai peidio.  Mae'n rhaid i chi fod yn sicr yn eich meddwl eich hun eich bod yn barod i wneud yr ymroddiad a bod yn rhan o'r eglwys leol.
  • Rwy’n gweithio oriau afreolaidd yn fy swydd felly ni fyddai modd i mi fynychu grŵp ar yr un amser bob wythnos.
    • Siaradwch â'ch offeiriad. Hwyrach y gall wneud trefniadau arbennig i gyd-fynd â'ch amserlen waith.
  • Beth sy'n digwydd os ydw i am gael fy nghonffyrmio ond bod gen i amheuon am rai o'r pethau mae Cristnogion yn eu credu o hyd?
    • Mae'n iawn i chi fod ag amheuon ac nid oes rhaid i chi gredu popeth!  Gallwch rannu'ch amheuon gyda'ch offeiriad a thrafod a ydych chi'n barod i gael eich conffyrmio neu a ddylech chi bwyllo.  Pan fyddwn ni'n adrodd y Credo, rydyn ni'n disgrifio'r hyn mae'r Eglwys yn ei gredu ac rydyn ni i gyd yn tyfu i mewn i'r ffydd honno.  Nid prawf personol yw diben conffyrmasiwn, ond yn hytrach cydnabyddiaeth o'r ffydd a drosglwyddwyd o oes i oes.
  • A oes rhaid talu am gonffyrmasiwn?
    • Nac oes.
  • Rwy'n oedolyn.  A alla i gael fy medyddio heb gael fy nghonffyrmio?
    • Fel rheol, mae oedolion yn cael eu bedyddio a'u conffyrmio ar yr un pryd. Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod angen i rai wneud pethau un cam ar y tro, felly trafodwch y mater gyda'ch offeiriad.
  • Ni allaf brofi fy mod wedi cael fy medyddio, beth ddylwn i ei wneud?
    • Efallai y bydd eich offeiriad yn gallu'ch helpu i wirio'r cofnodion bedydd. Os na allwch chi brofi eich bod wedi cael eich bedyddio, gellir eich bedyddio'n 'amodol' ac mae hyn yn digwydd yn breifat cyn y Conffyrmasiwn fel rheol.
  • Cefais fy nghonffyrmio pan roeddwn i'n rhy ifanc i ddeall yn iawn beth roeddwn i'n ei wneud. Alla i gael fy nghonffyrmio eto?
    • Na, ni allwch chi gael eich conffyrmio eto, ond gallwch fynychu'r cwrs paratoi ar gyfer conffyrmasiwn ac adnewyddu'ch addewidion bedydd yn y Gwasanaeth Conffyrmasiwn a bydd yr Esgob yn gweddïo drosoch.
  • Roeddwn i'n perthyn i eglwys lle nad oedd esgob yn conffyrmio.  Rwyf wedi cael fy medyddio felly pam mae angen i mi gael fy nghonffyrmio?
    • Mae croeso bob amser i chi addoli gyda ni heb gael eich conffyrmio, ond os ydych chi'n bwriadu addoli gyda ni'n rheolaidd, efallai y teimlwch chi fod conffyrmasiwn yn rhoi mwy o deimlad o berthyn i chi.
  • Rwy'n gaeth i'r tŷ ac ni allaf gyrraedd yr eglwys.  A oes modd i mi gael fy nghonffyrmio beth bynnag?
    • Oes.  Gall rhywun ymweld â chi yn eich cartref i'ch cynorthwyo i baratoi ar gyfer Conffyrmasiwn.  Bydd yr Esgob yn eich conffyrmio yn eich cartref eich hun a bydd rhywun o'ch eglwys leol yn dod â Chymun Sanctaidd i chi'n rheolaidd.
  • Pam fod yr Esgob yn gwneud y Conffyrmasiwn?
    • Yr Esgob yw prif weinidog ac athro'r esgobaeth ac yn draddodiadol, nid yw'n dirprwyo conffyrmasiwn i'r clerigwyr eraill.  Mae'n rhoi cyfle i chi gyfarfod yr esgob sy'n gysylltiedig â'r apostolion yn sgil ei ordeiniad a'i swydd.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.