Awdurdod Addysg Esgobaeth Tyddewi (Y Tîm Addysg)
Nod Tîm Addysg yr Esgobaeth yw cynrychioli a hyrwyddo buddiannau’r Eglwys yng Nghymru ym maes addysg yn Esgobaeth Tyddewi.
Cyfrifoldebau Awdurdod Addysg yr Esgobaeth
Mae Awdurdod Addysg yr Esgobaeth yn ceisio cyflawni ei genhadaeth gyda sylw penodol ar Ysgolion Gwirfoddol dan Gymorth ac Ysgolion Gwirfoddol dan Reolaeth yr Esgobaeth, ond mae hefyd yn ceisio sefydlu cysylltiadau a chydweithrediad pellach gydag Ysgolion Cymunedol a Cholegau Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn Esgobaeth Tyddewi.
Mae’n gwneud y gwaith hwn mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Sirol Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Ceredigion, y Gymdeithas Genedlaethol ac asiantaethau gwirfoddol eraill.

Yn benodol, mae’n cynnig cyngor ac arweiniad i Lywodraethwyr Ysgolion Eglwysig wrth addysgu a darparu adnoddau ar gyfer Addysg Grefyddol ac addoliad ysgol gyfan, ac mae’n goruchwylio arolygiaeth Adran 50 mewn ysgolion gwirfoddol.
Parthed addysg statudol, hwn hefyd yw’r Awdurdod Addysg a bennwyd yn briodol ac yn gyfreithiol ar gyfer Esgobaeth Tyddewi. Yn ymarferol, Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, gyda chymorth Swyddogion Addysg yr Esgobaeth, sy’n gweinyddu ei swyddogaethau cyfreithiol ar ran Esgob yr esgobaeth. Drwy waith Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth a’i gynorthwywyr, mae Awdurdod Addysg yr Esgobaeth yn ymwneud ag:
- Penodi llywodraethwyr ar gyrff llywodraethol ysgolion gwirfoddol;
- Sefydlu ysgolion newydd;
- Staffio ysgolion yr Eglwys;
- Cynnig cyngor i Esgob yr Esgobaeth ar faterion addysg statudol.
Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda Thimoedd eraill yr esgobaeth sy’n ymwneud ag addysg yn yr esgobaeth.


