Croeso i dudalen gyhoeddiadau yr Eglwys yng Nghymru ar ei newydd wedd. Fy enw i yw Ritchie Craven, Rheolwr y Cyhoeddiadau. Ymunais yn ddiweddar â Chorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru i olynu Hendrik Haye, a ymddeolodd wedi 18 mlynedd o ofalu am yr adran.
Yn ystod y cyfnod hwnnw gwelodd Hendrik lawer o newid mewn argraffu a chyhoeddi yn yr Eglwys yng Nghymru; yn awr, fy nhro i yw hi i ofalu am ei gofynion cyhoeddi a’i hanghenion adnoddau a dosbarthu gwybodaeth.
Dros y misoedd nesaf darperir lawrlwythi am ddim. Gellir dod o hyd i’r rhain drwy glicio’r ddolen isod "Lawrlwytho am ddim" a dewis ffeil. Bydd pob ffeil ar gael fel ffeil destun y gellir ei chludo i’r rhan fwyaf o raglenni (Microsoft Word, Publisher etc) a’i fformadu fel y bo angen. Diweddarir y rhestr yn gyson; felly, trowch i’r tudalennau’n aml.
Y prif ddatblygiad arall yw lawnsio ym mis Ionawr 2010 siop lyfrau ar-lein y cewch bori ynddi ac archebu llyfrau, cyhoeddiadau, adnoddau, cardiau gwasanaeth tystysgrifau etc. Ni dderbynnir unrhyw dâl ar-lein ac anfonir anfoneb yn y modd arferol.

