CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Venue Cymru, Llandudno, ar Dydd Mercher a Dydd Iau 18 a 19 Ebrill 2012.
Agenda - Diwrnod 1
Gweinyddu’r Cymun Bendigaid (Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno) 09:15
Coffi 10:30
- Tystir bod Mandat y Llywydd wedi’i weithredu’n gywir 13:30
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 21 a 22 Medi 2011
- Materion yn codi o’r Cofnodion (os bydd rhai)
- Croesawu Cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Cynigir argymhellion y Pwyllgor a draethir ar derfyn yr Adroddiad.
- Y Cyfamod Anglicanaidd
- cadarnhau ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i fywyd y Cymundeb Anglicanaidd ac yn derbyn Cyfamod y Cymundeb Anglicanaidd;
- gwahodd y Pwyllgor Sefydlog i fonitro’n flynyddol y rhan a gymer yr Eglwys yng Nghymru yn y Cyfamod.
Cynnig:
Bod y Corff Llywodraethol yn:
- Amser Cwestiynau
Cinio 13.00 - 14.00
- Cyflwyniad ar Gymorth Cristnogol gan ei Brif Weithredwr, Loretta Minghella OBE
- ailddatgan ei gefnogaeth i waith Cymorth Cristnogol ledled y byd yn codi ymwybyddiaeth o ddatblygiad rhyngwladol a chyfiawnder byd-eang;
- cefnogi blaenoriaethau ymgyrchu presennol Cymorth Cristnogol ar newid yn yr hinsawdd a threthu cyfiawn;
- croesawu gwaith Cymorth Cristnogol yn y Deyrnas Unedig yn codi ymwybyddiaeth o ddatblygiad rhyngwladol a chyfiawnder byd-eang;
- cydnabod yn ddiolchgar y gefnogaeth ariannol, weddigar ac arall a roddir gan eglwysi, Grwpiau Cymorth Cristnogol ac unigolion, yn enwedig yng Nghymru, at waith parhaol Cymorth Cristnogol.
Cynnig:
Bod y Corff Llywodraethol yn:
- Masnach Deg
- 'Bod yn Bobl Hael' – Cyflwyniad
- cydnabod yn ddiolchgar waith plwyfi ac esgobaethau yn ennill statws Masnach Deg;
- cymeradwyo’r nod o achredu’r Eglwys yng Nghymru yn Dalaith Masnach Deg;
- gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog benodi grŵp llywio i fonitro’r cynnydd tuag at gyflawni’r meini prawf i ennill statws Masnach Deg i’r dalaith fel y traethir yn Fair Trade Wales / Cymru Masnach Deg;
- gwahodd y Pwyllgor Sefydlog i adrodd yn ôl i’r Corff Llywodraethol erbyn 2014 ar y cynnydd tuag at achredu’r dalaith yn Dalaith Masnach Deg gan Fair Trade Wales / Cymru Masnach Deg.
- Arolwg yr Eglwys yng Nghymru – Trafodaeth mewn Grwpiau
Cynnig:
Bod y Corff Llywodraethol yn:
Hwyrol Weddi (Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno) 18:30
Cinio 19.15
Cyfarfod Agored gyda Thîm Arolwg yr Eglwys yng Nghymru 20.30
Diwrnod 2
Gweinyddu’r Cymun Bendigaid (Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno) 07.30
- Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl
- Ordeinio Merched yn Esgobion – Cyflwyniad a Thrafod mewn Grwpiau
- Gwasanaethau Priodas 2010 - Trafodaeth
- Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf
Cynnig:
Derbyn Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf.
- Adroddiad y Gweithgor Gweinidogaeth Gymraeg
- croesawu Adroddiad y Gweithgor Gweinidogaeth Gymraeg, ‘Pob un yn ei iaith ei hun’;
- gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog
- ymgynghori â Mainc yr Esgobion ar ba flaenoriaeth i’w rhoi i argymhellion penodol yn yr Adroddiad;
- gwahodd Corff y Cynrychiolwyr i gynghori ar gost gweithredu argymhellion yr Adroddiad;
- gan gymryd sylw o gyngor y Fainc a Chorff y Cynrychiolwyr, ystyried sut i symud argymhellion yr Adroddiad ymlaen, ac
- adrodd yn ôl i’r Corff Llywodraethol cyn mis Ebrill 2013 ar sut y bwriedir gweithredu;
- gwahodd Mainc yr Esgobion i fonitro’r nifer o siaradwyr Cymraeg a elwir i’r weinidogaeth ac adrodd yn ôl ar hynny bob blwyddyn i’r Corff Llywodraethol yn ‘ystadegau’r Weinidogaeth’.
Cynnig:
Bod y Corff Llywodraethol yn:
- Adroddiad y Grŵp Strategaeth ar Alw i’r Weinidogaeth
- Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
- Penderfynodd y Corff Llywodraethol y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf ddydd Iau a dydd Gwener, 13 ac 14 Medi 2012, ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

