Cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Swyddfeydd y Dalaith, 39 Heol y Gadeirlan
- Cynnwys y dudalen hon dair set o gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Swyddfeydd Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru, 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd:
- O Orsaf Ganolog Caerdydd
- O’r Gorllewin neu o’r A470 trwy gyffordd 33 yr M4
- O’r Dwyrain ar hyd yr M4 (wedi croesi Pont Hafren)
-
O ORSAF REILFFORDD GANOLOG CAERDYDD (ar droed)
- Gyda phorth yr orsaf y tu ôl i chwi, a chwithau’n wynebu’r orsaf fysiau, ewch allan trwy’r fynedfa ar y chwith o’r buarth o flaen yr orsaf. Wedi cyrraedd y goleuadau traffig, trowch i’r chwith heibio i Stadiwm y Mileniwm a chroeswch yr Afon Taf (bellach yr ydych ryw 300 llath o’r orsaf).
- Yn syth wedi croesi’r afon, trowch i’r dde i lawr Fitzhamon Embankment.
- Ar ôl rhyw 400 llath, mae’r ffordd yn troi’n sydyn i’r chwith gan newid ei henw i Despenser Street.
- Ar ôl 150 llath, trowch i’r dde ger cylchfan i mewn i Heol Isaf y Gadeirlan.
- Ar ôl 150 llath pellach, byddwch wedi cyrraedd cyffordd brysur arall â goleuadau traffig yn ei rheoli. Mae Heol Isaf y Gadeirlan yn croesi Heol Y Bontfaen gan newid i fod yn Heol y Gadeirlan.
- Mae rhif 39 (sydd mewn difrif yn cynnwys 37, 39 a 39A) ar y chwith rhwng y ffordd gyntaf a’r ail ffordd ar y chwith.
- Trowch i’r chwith ger y cyntaf o’r goleuadau traffig, yna i mewn i’r lôn gyntaf ar y chwith eto, ac i’r chwith wedyn i mewn i’r maes parcio. Mae’r brif fynedfa i ‘39’ o’r maes parcio.
-
O’R GORLLEWIN NEU’R A470 TRWY GYFFORDD 33 YR M4
- Gadewch yr M4 yng nghyffordd 33 ac ewch allan o’r gylchfan trwy’r allanfa gyntaf - A4232 (y ffordd gyswllt).
- Anwybyddwch allanfeydd yr Amgueddfa Werin a Chroes Cwrlwys, ac ar ôl oddeutu 5 milltir, ymadewch â’r ffordd gyswllt trwy’r allanfa Ystâd Ddiwydiannol Lecwydd a’r Ganolfan Chwaraeon.
- Wrth ddilyn y ffordd ymadael, arhoswch yn y lôn chwith ac yn y gylchfan cymerwch yr allanfa gyntaf (Ffordd Lecwydd) gydag arwyddion am Ganol y Ddinas. Byddwch yn mynd heibio canolfan chwaraeon ar y dde a chaeau ar y chwith.
- Ar ôl ¼ milltir, ac wedi cyrraedd y goleuadau traffig, ewch yn syth yn eich blaen. Byddwch yn mynd o dan bont rheilffordd.
- Ar ôl canllath arall byddwch yn cyrraedd set arall o oleuadau traffig. Trowch i’r dde (ond nid yn chwyrn i’r dde) i mewn i heol lydan (Wellington Street) sy’n arwain at ganol y ddinas. 30 m.y.a. yw’r cyfyngiad cyflymdra yma.
- Ar ôl oddeutu ¼ milltir, ewch yn syth yn eich blaen yn y goleuadau traffig nesaf, gan barhau i fynd tuag at ganol y ddinas. Yr ydych bellach ar Ffordd Y Bontfaen.
- Ar ôl 300 llath, yn y goleuadau traffig nesaf, trowch i’r chwith i mewn i Heol y Gadeirlan. Ar y llaw chwith, ac nid nepell cyn i chwi gyrraedd y goleuadau traffig, fe welwch adeilad Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol sydd â lawnt o’i flaen.
- Ewch yn eich blaen i fyny Heol y Gadeirlan at y goleuadau traffig nesaf, sydd â mynegbost yn cyfeirio at Athrofa Chwaraeon Cymru a Gerddi Soffia. Trowch i’r chwith yn y gyffordd hon, ac i’r chwith eto bron yn syth wedyn, i mewn i lôn gefn. Y fynedfa gyntaf y dewch iddi yw’r ffordd i mewn i faes parcio’r Eglwys yng Nghymru. (Os yw’r lôn fach wedi ei chau gan gerbydau wedi parcio ynddi, ewch yn eich blaen a throwch i’r chwith yn y tro nesaf, yr un wedyn a’r un canlynol er mwyn cyrraedd pen arall y lôn.)
-
O’R DWYRAIN, AR HYD YR M4 WEDI CROESI PONT HAFREN:
- Ymadewch â’r M4 yng nghyffordd 29, sydd â’r arwydd A48(M) Caerdydd. Arhoswch ar yr A48 tan i’r draffordd droi yn ffordd A ddeuol (wedi 1.5 milltir)
- Dilynwch yr A48 am oddeutu 7 milltir pellach, gan anwybyddu arwyddion ar gyfer canol y ddinas, nes bod y ffordd ddeuol yn dod i ben (yn fuan wedi cyffordd 3 lefel, y cyfyngiad cyflymdra 40 m.y.a., cip ar Eglwys Gadeiriol Llandaf ar y llaw dde, a’r set gyntaf o oleuadau traffig).
- Wedi’r bont dros afon Taf mae’r ffordd ddeuol yn ail-gychwyn!
- Dilynwch y fforch yn y ffordd tua’r chwith, gan ddilyn yr arwydd am ganol y ddinas (oddeutu 0.5 milltir y tu hwnt i’r goleuadau traffig cyntaf sy’n darparu mynediad i’r Coleg Technegol ar y llaw dde). Arhoswch yn y lôn chwith, ac yn y goleuadau traffig sy’n rheoli llif y traffig trwy’r gyffordd “T” trowch i’r chwith (i mewn i Heol Caerdydd).
- Wrth y set nesaf o oleuadau (0.5 milltir), trowch i’r chwith (golau ffilter yn weithredol) i mewn i Penhill Road. Dilynwch y ffordd hon am o ddeutu 0.75 milltir (mae’n newid ei henw i Heol y Gadeirlan).
- Nid nepell cyn y groesfan Belican (y drydedd ers ichwi droi i mewn i Penhill Road), y mae troeon i’r dde a’r chwith. Mae canol y ffordd â lonydd cyfeiriedig er mwyn cynorthwyo gyrwyr sy’n dod o ganol y ddinas i droi i’r chwith i mewn i Erddi Soffia (Athrofa Chwaraeon Cymru). Mae’r tro i’r dde, rhwng blwch llythyron coch ar un gornel a bocs ffôn cyhoeddus coch hen-ffasiwn gerllaw’r llall, ym mynd â chwi i Talbot Street.
- Trowch i’r dde i mewn i Talbot Street ac ar ôl ugain llath trowch i’r chwith i mewn i lôn gefn – mae garej o friciau ar y cornel.
- Y maes parcio cyntaf ar y chwith yw un Yr Eglwys yng Nghymru. Parciwch mewn unrhyw ofod parcio gwag ac eithrio’r un sy’n union gerllaw mynedfa gefn yr adeilad - sydd wedi ei neilltuo ar gyfer dadlwytho nwyddau.

