Esgobion
Y Parchedicaf Barry Morgan,
Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf
Mae Barry Morgan wedi bod yn Esgob Llandaf er 1999 ac yn Archesgob Cymru er 2003. Cyn hynny bu’n Esgob Bangor, 1993-99. Yn enedigol o Gastell Nedd, de Cymru bu’n astudio hanes yn Llundain a Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt, a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Wescott House, Caergrawnt. Astudiodd am ddoethuriaeth pan oedd yn ddarlithydd prifysgol. Bu’n gweithio mewn ystod o gyd-destunau gweinidogaethol – yn weinidog mewn plwyf, yn ddarlithydd mewn prifysgol a choleg diwinyddol ac yn gaplan prifysgol, yn archddiacon a chyfarwyddwr ordinandiaid a swyddog addysg weinidogaethol barhaus. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd ac ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yn aelod o Gomisiwn Lambeth a gynhyrchodd Adroddiad Windsor 2004. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau; y diweddaraf o’r rheini oedd astudiaeth o waith y bardd R. S. Thomas Strangely Orthodox. Mae hefyd ar hyn o bryd yn Bro-Ganghellor Prifysgol Cymru ac yn gymrawd ym Mhrifysgolion Caerdydd, UWIC, Bangor a Llanbedr Pont Steffan, ac yr oedd tan yn ddiweddar yn Llywydd y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol. Cadeiriodd hefyd ymchwiliad ar ran Shelter Cymru i ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n mwynhau chwarae golff a darllen nofelau yn ei oriau hamdden.
Y Gwir Barchedig Dominic Walker OGS,
Esgob Mynwy
Ganwyd yr Esgob Dominic ar 28ain Mehefin 1948 yn Plymouth, Dyfnaint, ei fam yn Gymraes a’i dad yn Sais. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Plymouth, Coleg y Brenin, Llundain (AKC), Coleg Heythrop, Llundain (MA) a Phrifysgol Caerdydd (LL.M). Mae ganddo Ddoethuriaeth anrhydeddus (D.Litt) o Brifysgol Brighton ac mae’n llywodraethwr Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Mae’n perthyn i Oratori y Bugail Da ac ef oedd yr Uchel Dad o 1990-96. Cafodd ei ordeinio yng Nghadeirlan Southwark - fel diacon ac offeiriad yn 1972 ac esgob yn 1997. Gwasanaethodd fel caplan i Esgob Southwark ac yna fel offeiriad plwyf yn yr Elephant & Castle, Llundain ac yn Brighton; fel Ficer Brighton roedd yn Rheithor Tîm ac yn Ddeon Gwlad. Ar 1Mai 1997 cafodd ei gysegru’n Esgob Rhanbarth Reading nes iddo ddod yn Esgob Mynwy ym Mawrth 2003. Ef yw ‘esgob gweinidogaeth’ yr Eglwys yng Nghymru.
Mae gan yr Esgob Dominic ddiddordeb yn y weinyddiaeth iachâd a gwaredigaeth, lles anifeiliaid (mae’n Is Lywydd i’r RSPCA) a’r bywyd cysegredig.
Y Gwir Barchedig John Davies,
Esgob Abertawe ac Aberhonddu
Ganwyd yr Esgob John yng Nghasnewydd yn 1953. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Basaleg, a graddiodd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Southampton yn 1974. O Southampton aeth i Goleg y Gyfraith yng Nghaer a chafodd ei dderbyn fel cyfreithiwr yn 1977, gan arbenigo mewn cyfraith droseddol.
Gadawodd yr Esgob John y gyfraith i fynd i’r weinidogaeth a chafodd ei ordeinio yn 1984. Gwasanaethodd mewn amrywiaeth o blwyfi yn Esgobaeth Mynwy cyn cael ei benodi’n Ddeon Aberhonddu. Mewn wyth mlynedd yn y rôl honno, goruchwyliodd welliannau sylweddol i ffabrig a litwrgaeth y Gadeirlan. Cafodd ei ethol yn nawfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008.
Mae’r Esgob John wedi cadw diddordeb brwd mewn materion troseddu a chosb, gyda chonsyrn neilltuol am natur troseddolrwydd ac effeithiau safonau cymdeithasol ac addysgol gwael ar y rhai sy’n dod yn ystadegau troseddau. Ar ôl gwasanaethu fel cadeirydd ymddiriedolwyr hosbis fawr yng Nghas-gwent, mae ganddo hefyd gonsyrn dwfn am ddarpariaeth gyfiawn gofal iechyd.
Yn gyn aelod o gôr eglwysig, organydd ac arweinydd côr, mae gan yr Esgob John ddiddordeb angerddol mewn cerddoriaeth eglwysig, gan ei ystyried yn rhan bwysig o addoli.
Mae hefyd yn mwynhau gwylio criced a rygbi, chwarae golff, coginio a cherdded. Mae’n briod â Jo, Cydlynydd Trawsblaniad Organau i Wasanaeth Gwaed a Thrawsblannu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae ganddynt ddau o blant – Kate, sy’n astudio Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Caerdydd a Christopher sy’n astudio Hen Hanes ym Mhrifysgol Reading.
Y Gwir Barchedig Wyn Evans,
Esgob Tyddewi
Mae’r gŵr a fu’n gyfrifol am drefnu a chyflawni prosiect adnewyddu gwerth deng miliwn o bunnoedd ar gyfer Cadeirlan Tyddewi wedi ei ethol yn 128fed Esgob Tyddewi. Dewiswyd y Tra Pharchedig (John) Wyn Evans ar ôl ond diwrnod o drafod gan “Goleg Etholiadol” o 46 o aelodau yn cynrychioli pob un o esgobaethau’r Eglwys yng Nghymru, y mwyafrif yn naturiol o Dyddewi. Dywedodd ei fod yn “fud” ac wedi ei “wefreiddio” gan y newyddion.
Daw ffefryn y bwcis ar gyfer y swydd, Wyn Evans, sy’n 61 oed, â phrofiad helaeth i’w ganlyn. Ef oedd ar flaen y gâd yn yr ymgyrch i sicrhau Cadeirlan Tyddewi fel trysor pennaf yr Eglwys yng Nghymru, a lle i ddenu pererinion a thwristiaid o bedwar ban byd. Fel Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac awdurdod cydnabyddedig ar Gristionogaeth Geltaidd a’i blas arbennig ar ysbrydolrwydd fyfyrgar, daw â dyfnder gweledigaeth a gydnabuwyd yn helaeth yng Ngorllewin Cymru. Mae’n awdurdod ar fywydau saint cynnar Cymru, ac yn ddiweddar, ef oedd golygydd y llyfr “St. David of Wales – Cult Church and Mission”. Yn enedigol o Sir Benfro, magwyd Wyn Evans yn Aberystwyth, lle roedd ei dad yn Ficer. Astudiodd archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru, fe’i ordeiniwyd yn offeiriad ym 1972 a gwasanaethodd gydol ei yrfa yn Esgobaeth Tyddewi. Mae’n Gymro Cymraeg o’r crud. Mae’n frwd ei gefnogaeth i’r celfyddydau, yn Gadeirydd yr ?yl bwysig a gynhelir yn flynyddol yng Nghadeirlan Tyddewi, ac yn Noddwr yr elusen “Arts in Churches”. Mae’n briod â Diane, crochenydd broffesiynol sy’n gweithio yn Nhyddewi.
Datganodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan, a fu’n gofalu am yr Esgobaeth wedi ymddiswyddiad y Gwir Barchedig Carl Cooper ym mis Ebrill, ei fod “wrth ei fodd” â chanlyniad yr etholiad. “Mae’n amlwg fod gan Wyn gefnogaeth aruthrol oddi fewn ac oddi allan i’r Esgobaeth” meddai. “Mae’n bâr diogel o ddwylo a hefyd yn ddyn a all symud yr Esgobaeth yn ei blaen a pharhau â’i gwaith da”.
Y Gwir Barchedig Andy John,
Esgob Bangor
Maged Esgob Andy yn Aberystwyth. Aeth i Ysgol Penglais a graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, yn 1986 ac mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham yn 1988. Yn 1989 astudiodd at Ddiploma mewn Astudiaethau Bugeiliol yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi yn 1990 a threuliodd ei holl weinidogaeth tan ei ethol yn Esgob Bangor yn yr esgobaeth honno. Bu’n gurad Aberteifi, Y Ferwig a’r Mwnt o 1989 hyd 1991, ac Aberystwyth o 1991 hyd 1992. Bu’n ficer ym Mywoliaeth Reithorol Aberystwyth o 1992 hyd 1999, a Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth o 1999 hyd 2005 – plwyf a ehangwyd yn 2005 i gynnwys Llanbadarn Trefeglwys. Bu’n ficer Pencarreg a Llanycrwys ere 2006 ac yn Archddiacon Ceredigion er 2006.
Mae Esgob Andy yn mwynhau rhedeg, chwarae sboncen, beicio mynydd, a chanu’r sacsoffon a’r gitâr. Mae’n briod â Caroline sydd hefyd yn ddiacon yn yr Eglwys yng Nghymru. Ordeiniwyd Caroline yn ddiacon pan ordeiniwyd Andy yn offeiriad yn 1990. Mae ganddynt bedwar o blant, Matthew, Bethany, Hannah, a Harriet.
Y Gwir Barchedig Gregory Cameron,
Esgob Llanelwy
Ganwyd yr Esgob Gregory yn un o gymoedd de ddwyrain Cymru, a magwyd ef ym mhentref Llangybi ger Brynbuga, Sir Fynwy, lle y darganfu grefydd pan oedd yn ei arddegau a dechrau mynychu’r Ysgol Anglicanaidd leol (Ysgol Cybi Sant). Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog yng Nghwm-brân. Tra’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, derbyniodd alwad i’r weinidogaeth ordeiniedig, ac ar ôl cael ei dderbyn yn ymgeisydd am urddau yn yr Eglwys yng Nghymru, astudiodd am radd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle y bu’r Rowan Williams ifanc yn dysgu iddo hanes cynnar yr eglwys. Ar ôl astudio ymhellach yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, ordeiniwyd ef yn Esgobaeth Mynwy, a bu’n gwasanaethu ym Mhlwyf Sant Paul, Casnewydd, ac yna ym Mywoliaeth Reithorol Llanfartin. Bu wedyn yn gaplan mewn ysgol (Coleg Wycliffe, Stonehouse) ac yn gyfarwyddwr elusen addysgol (Prosiect Bloxham). Yn 2000, penododd Rowan Williams, a oedd ar y pryd yn Archesgob Cymru, ef yn gaplan iddo.
Yn 2003, fe’i penodwyd gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb Anglicanaidd yn Gyfarwyddwr Materion Eciwmenaidd yn Swyddfa’r Cymundeb Anglicanaidd yn Llundain, a daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol flwyddyn yn ddiweddarach. Yn y swydd hon bu’n gyfrifol am gysylltiadau eciwmenaidd byd-eang y Cymundeb Anglicanaidd ac am staffio Comisiwn Lambeth, a gynhyrchodd Adroddiad Windsor. Bu’n ddarlithydd yn yr Hen Destament yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, ac y mae ar hyn o bryd yn Gymrodor Ymchwil Mygedol mewn Cyfraith Ganon yng Nghanolfan Gyfraith a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. Yn 2007, derbyniodd Ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd gan yr Ysgol Ddiwinyddiaeth Esgobol, Massachussetts, i gydnabod ei gyfraniad i gymod yn y Cymundeb Anglicanaidd.
Mae Gregory, 49, yn briod â Clare, athrawes gerddoriaeth a chyfansoddwraig, ac y mae ganddynt dri mab, 11, 9 a 6 oed. Mae Gregory yn mwynhau darllen, arlunio a chaligraffeg, ac y mae hefyd yn Eifftiolegydd brwdfrydig. Mae’n dysgu Cymraeg, a daeth yn gefnogwr mawr i Eisteddfodau ar ôl ennill ysgoloriaeth i Eisteddfod Bro Dwyfor yn 1975, ond y mae chwe blynedd o fyw yn Lloegr wedi pylu ei sgiliau sgwrsio. Yn ystod ei holl weinidogaeth, ceisiodd gyfathrebu Efengyl Iesu Grist mewn dulliau newydd a chyffrous, a chred fod y ffydd Gristnogol yn cynnig gobaith a sialens enfawr i’r byd ac i’r gymdeithas sydd ohoni heddiw. Nid yw hyn yn ei rwystro rhag bod yn ddilynwr selog i Dr Who.
The Right Reverend David Wilbourne,
Assistant Bishop of Llandaff
Ganwyd yr Esgob David yn Swydd Derby yn 1955. Aeth i’r ysgol yn Swydd Efrog ac wedyn astudiodd y Gwyddorau Naturiol a Diwinyddiaeth yng Ngholeg yr Iesu a Thŷ Westcott, Caergrawnt. Cyn ei ordeiniad, bu David yn gweithio i Fanc Barclays am chwe blynedd a bu’n dysgu fel Goruchwyliwr Prifysgol yn y Testament Newydd a Groeg Koine. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1981 ac yn offeiriad y flwyddyn ddilynol, bu’n offeiriad yn gyntaf yn ardal drefol Middlesbrough ac yna’n rheithor plwyf lled-wledig i’r gogledd o Pontrefact, lle ymysg pethau eraill bu’n cynnal dosbarth mewn Groeg Hynafol ar gyfer ugain o blwyfolion. Yn 1991 symudodd i fod yn gaplan Archesgob Caerefrog, gan weithio gyda John Hapgood am bedair blynedd cyn ei ymddeoliad ac yna barhau i weithio gyda’i olynydd, David Hope. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Ordinandau, gan ddethol dynion a menywod ar gyfer offeiriadaeth ordeiniedig a mynd â hwy drwy hyfforddiant i’w swyddi cyntaf. Ym Medi 1997 symudodd o Bishopthorpe i fod yn Ficer Helmsley, tref farchnad ar weundir Gogledd Swydd Efrog ac am chwe blynedd bu’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Ryedale, ysgol gyfun wledig yn cyflawni’n uchel. Gwnaeth Archesgob John Sentamu ef yn ganon Caerefrog yn 2008.
Yn fab i offeiriad, mae David yn briod â Rachel, athrawes hanes ac addysg grefyddol a dylunydd gwefannau plwyfi, ac mae ganddynt dair merch. Mae ei ddiddordebau cynnwys beicio, cerdded bryniau ac ysgrifennu, yn arbennig geisio sicrhau cydbwysedd rhwng y digrif a’r dwys. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, An Archbishop’s Diary, yn 1995. Dilynwyd hyn gan A Vicar’s Diary ac A Summer’s Diary y dywedodd David amdano: ‘Pan oeddwn yn ddeg oed symudodd fy nheulu i ardal hollol wledig, 15 milltir i’r de ddwyrain o Gaerefrog. Cafodd y lle ei ddisgrifio yn East Riding gan Arthur Mee fel llwm a phellennig - rwy’n credu ei fod yn bod yn garedig! Ond roedd yn lle y deuthum i’w garu, y caeau, y ffermydd, y Derwent a’i Ings, y cefn gwlad agored. Ymddangosai’n naturiol i osod fy nwy nofel yno. Mewn llawer o ffyrdd fe wnes ysgrifennu’r llyfrau yn fy mhen pan oeddwn yn ddeg oed. Buont wedyn yn mudferwi am ddeng mlynedd ar hugain cyn i mi eu hysgrifennu. Roeddwn hefyd eisiau dathlu pobl, yr Eglwys a’r byd o’n cwmpas. Mae llawer o hiwmor, llawer o ddwysdeimlad sy’n werth ei nodi. Dwi ddim yn hoff iawn o ddiwylliant dirmyg lle ymddengys ein bod yn beirniadu popeth.’ Caiff y ddau lyfr eu gwerthu gan Gadeirlan Llandaf er budd ei Chronfa Organ.
Ei ddau lyfr arall yw A Virgin's Diary (dyddiadur Mair parod-ei-thafod yn ei harddegau yn y cyfnod cyn geni Iesu) a You were made for me (astudiaeth o sut mae rhagenwau personol yn datgelu ein ffydd ac yn dod yn fyw) ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar fywgraffiad awdurdodedig John Hapgood. Cyn symud i Gymru, roedd David yn golofnydd dyddiadur cyson yn The Church Times am dros 12 mlynedd ac mae’n Aelod o’r Gymdeithas Awduron. Mae’n siaradwr ar ôl cinio cyson, yn ddarlledwr ac arweinydd enciliad a chynhadledd.
Cysegrwyd David yn Esgob Cynorthwyol Llandaf ym mis Ebrill 2009. Ar ôl ei benodi, dywedodd: “Rwyf bob amser wedi edmygu’r Eglwys yng Nghymru oherwydd ei bod cyfuno cyfeillgarwch a sancteiddrwydd yn ddiymdrech, ei Hefengyl yn un nad yw’n cywilyddio yn ei thynerwch ei hun: mae hynny’n fy nharo fel Anglicaniaeth ar ei orau oll. Yn bennaf, rwyf yn dod yn waglaw, yn awyddus i wrando, i ddysgu, a chadarnhau bywyd yn ei holl lawnder. Yna gadewch i ni weld i ble yr aiff Duw â ni oddi yno.’

