Press Release
Y Garawys – glanhad blynyddol yr enaid
Garawys - yr union amser i osod ein meddwl ar yr hyn sydd o wir bwys
Fe all i’r archfarchnadoedd lenwi’r silffoedd ag wyau Pasg ymhell cyn tynnu ceirw siocled y Nadolig i hanner pris, ond i Gristnogion mae tipyn mwy o oedi rhwng dathlu geni Crist a choffáu ei farw. Dydd Mercher yr wythnos hon yw dechrau’r Garawys – chwech wythnos o fyfyrio a pharatoi ac o ymwadu na fyddai’n apelio at y sawl sydd am wneud ceiniog sydyn.
Mae’n hawdd deall pam nad yw’r Garawys yn achosi’r un brwdfrydedd ag achlysuron eraill yn y calendr Cristnogol. Does ganddo ddim o gynhesrwydd a haelioni a rhialtwch y Nadolig, o ddisgwylgarwch cyffrous yr Adfent, o lawnder y Cynhaeaf nac o ffresni glân y Pasg. Nid yw’r cyfnod pan ddaw o’i blaid ychwaith – fe ddaw gan amlaf nid yn gynnar yn y gwanwyn ond yn hwyr yn y gaeaf, pan fo pawb wedi cael llond bol ar foreau oer a thywyll a nosau hirion llawn diflastod a thrymder.
Mae ein greddfau’n gweiddi am chwech wythnos ar draeth heulog, ond yr hyn a gynigir inni yw chwech wythnos o ymdrech feddyliol a hirlwm corfforol, ar yr union adeg pan fyddwn yn teimlo’n euog am fethu cadw ein haddunedau Blwyddyn Newydd. Y geiriau allweddol yw ympryd, edifeirwch, hunanymwadu, disgyblaeth, ymwrthod. Mae hyd yn oed y gair ‘Garawys’, o’r Lladin Quadragesima, deugain diwrnod, yn awgrymu cyfnod cras o syrffed. Mae Esgob Cynorthwyol Llandaf, David Wilbourne, yn cyfaddef ei fod yn gyfnod anodd ei werthu.
“Pan oeddwn yn fachgen roeddwn i’n casáu’r Garawys am fod pawb yn edrych mor ddiflas. Dim blodau i lonni’r eglwys, yr emynau undonog yn sôn am ddeugain dydd a deugain nos o newyn ac oerfel a themtasiwn, a phregethwyr yn malu am ymprydio a hunanymwadu. Fe’i hysbrydolodd y profiad hwnnw i roi gwedd newydd ar y tymor pan ddaeth yn offeiriad plwyf. Cred y dylid gweld y Garawys fel cyfle gogoneddus i glirio ac adnewyddu a glanhau ein bywydau.
“Pan ddeuthum yn offeiriad plwyf mi benderfynais ysgafnu’r Garawys a’i wneud yn beth cadarnhaol, yn lle bod yn beth negyddol. Mae’r Garawys yn digwydd ar ddechrau’r gwanwyn, ac mae’r gwanwyn yn gyfle i’n hadnewyddu ein hunain at wefr bywyd newydd. Yn union fel y byddwn ni’n glanhau ein tai, fe allwn lanhau ein bywyd ysbrydol hefyd, clirio’r llanast fel y gallwn ganolbwyntio ar y pethau sydd o bwys.”
Eleni bydd yr Esgob David yn defnyddio sioeau cerdd i fywiogi’r Garawys. Bydd yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau bob wythnos ar ganeuon y sioe Jesus Christ, Superstar, mewn tair canolfan yn ne Cymru – Eglwys Dewi Sant, Castell Nedd; Cadeirlan Llandaf ac Eglwys Sant Elfan Aberdâr. Mae’n gobeithio y bydd yn grymuso ffydd pobl dros y Garawys.
Ledled Cymru, bydd yr eglwysi’n annog pobl i ymwadu – i glirio’r llanast – neu i ymgymryd â chyfrifoldebau newydd dros chwech wythnos y Garawys. Chaiff hyd yn oed yr Archesgob, y Dr Barry Morgan, mo’i esgusodi. Ymhlith ei ddyletswyddau eraill, a fydd yn cynnwys ymweld â holl glerigion ei esgobaeth, bydd yn rhoi’r gorau i un peth y mae’n hoff iawn ohono, sef siocled. Mae’n cyfaddef ei fod yn siocoholic. “Rwy’n rhoi’r gorau iddo,” meddai, “i’m hatgoffa fy hun mai fi sy’n rheoli fy mywyd, a waeth pa mor gryf yw’r atyniad, fedra i ddim caniatáu iddo fod yn gryfach na’m hewyllys. Mi fydda i’n rhoi’r arian a arbedir at elusen fel y gall rhywun arall elwa.”
Mae’r syniad o ympryd Garawys y naill yn elw i’r llall yn un sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae llawer eglwys yn gwneud apêl Garawys ac yn annog pobl i roi at achosion da yr hyn a arbedant ar win neu siocled. Er enghraifft, mae Esgob Mynwy, Dominic Walker, yn gwahodd pobl i ymuno ag ef i wneud heb bryd o fwyd ar Ddydd Mercher y Lludw a dyddiau Gwener y Garawys ac i anfon yr arian at ei apêl dros bobl ddigartref Casnewydd. Mae’n gobeithio codi £20,000 i’w rannu rhwng Lloches Nos Eglwysi Casnewydd a’r ymgyrch i ddarparu 2,500 o Feiblau ar gyfer Cristnogion newydd yn Tsieina. Mae Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies, wedi lawnsio apêl i godi arian at Ysbyty Bollobhpur yn Bangladesh ac at y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau ar ran y rhai sy’n dioddef o ganlyniad i’r ddaeargryn yn Haiti.
Mae gweddi hefyd yn bwysig yn y Garawys fel dull o adnewyddu ffydd ac ennill nerth. Mae Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, yn gofyn i glerigion ac aelodau’r eglwys roi’r gorau i beth bynnag y maent yn ei wneud am 6 o’r gloch bob nos a chymryd rhan mewn gweddi ar y cyd. “Mae pobl yn hoffi cael sialens ychwanegol yn y Garawys,” meddai, “ac mae yna ran o leiaf ohonof sy’n credu y gallai cydweddïo ledled yr esgobaeth ddyfnhau ein bywyd cyffredin.”
Yn ôl yr Esgob David, trwy roi pethau o’r neilltu neu trwy ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, fe ddeuwn yn gryfach unigolion, yn fwy ymwybodol o beth sy’n ein gyrru ni a beth yw’n perthynas â’r byd o’n cwmpas.
“Cyfle yw’r Garawys i fyfyrio ar daith Iesu o Galilea heulog i Jerwsalem lawn pryder a’r prawf a’r farwolaeth a oedd o’i flaen. Ni ddylai’r myfyrdod fod yn un digalon. Yn hytrach dylai ddangos uinni sut i ddygymod â’r colledion a’r marwolaethau sy’n rhan o fywyd pawb.
“Mae rhoi pethau o’r neilltu dros y Garawys yn rhywfaint o baratoad at y diwrnod pan fydd yn rhaid inni roi bywyd ei hun o’r neilltu. Ysgrifennodd Charles Wesley, sylfaenydd Methodistiaeth Wesleaidd, am Grist yn ei wacau ei hun o bopeth ond cariad. Mae gwacau ein bywydau o anhrefn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar y cariad y myn Duw inni ei gael. Y cariad sydd, yn ôl yr Efengyl Gristnogol, yn goroesi hyd yn oed farwolaeth, am mai rhoi pethau o’r neilltu yn llawen yn hytrach na glynu’n ystyfnig wrthynt yw porth tragwyddoldeb.”
Dadl ddewr, a dadl na fydd yr archfarchnadoedd, efallai, yn awyddus i’w derbyn. Ond yn y dyddiau hyn o ddirwasgiad, pan nad oes, o bosibl, lawer o bethau ar ôl i’w rhoi o’r neilltu, gallai’r Garawys fod yr union amser i osod ein meddwl ar yr hyn sydd o wir bwys ac i newid rhythm ein bywydau yn unol â hynny.
Garawys – Wyddech chi?
1. Mae’r Garawys yn para am 40 diwrnod o Ddydd Mercher y Lludw i Ddydd Sul y Blodau, diwrnod cyntaf yr Wythnos Fawr. Mae’n coffáu’r 40 diwrnod pan ymneilltuodd Iesu i Anialwch Jwda di ymbaratoi at ei weinidogaeth ac i fyfyrio ar ei flaenoriaethau. 2. Bydd Cristnogion yn defnyddio’r Garawys i ganolbwyntio ar y pethau sydd o wir bwys yn eu ffydd a’u bywyd, ac yn ceisio’u rhyddhau eu hunain oddi wrth anhrefn a dryswch. 3. Gan ddilyn patrwm Iesu, a ymprydiodd am ddeugain dydd yn yr anialwch, amcana Cristnogion at wneud y Garawys yn gyfnod o ympryd. Byddant yn torri i lawr ar yr hyn a fwytânt neu’n rhoi’r gorau i foethusion. Â’r arian a abedir yn aml at achosion da. 4. Yn yr oesoedd canol deuai’r Garawys yn nyddiau olaf tymor y gaeaf pan fyddai’r storfa fwyd yn isel. Golygai bwyta llai am resymau ysbrydol y gellid cynilo bwyd a pheri iddo bara tan y gwanwyn. 5. Daw’r traddodiad o fwyta crempogau ar Ddydd Mawrth Ynyd, y diwrnod cyn y Garawys, o’r arfer o ddefnyddio’r hyn oedd yn weddill o wyau a llaeth a mêl cyn dechrau ymprydio. 6. Daw’r enw Dydd Mawrth Ynyd o’r gair Lladin Initium, yn golygu Cyntaf. Mae’n ein hatgoffa bod trannoeth yn ddiwrnod cyntaf y Garawys. 7. Daw’r enw Dydd Mercher y Lludw o wasanaeth arbennig y dydd pan fo’r mynychwyr yn derbyn arwydd y groes mewn lludw ar eu talcennau, a’r gweinidog yn dweud “Cofia mai llwch ydwyt ac mai i’r llwch y dychweli. Tro ymaith oddi wrth bechod a bydd yn ffyddlon i Grist”. Yn draddodiadol daw’r lludw o losgi croesau palmwydd y llynedd. Mae yna felly barhad – un Garawys yn gorffen, un arall yn dechrau. 8. Yn yr Eglwys Fore cedwid tymor y Garawys, gyda’i edifarhau a’i ymprydio, yn bennaf gan y rhai a oedd yn paratoi at gael eu bedyddio ar Noswyl y Pasg, pan gleddid hwy gyda Christ yn symbolaidd trwy fedydd i’w hatgyfodi i fywyd newydd ar Ddydd y Pasg. 9. Yn ystod y Garawys bydd Cristnogion yn myfyrio hefyd ar daith gweinidogaeth Iesu – o Galilea heulog i Jerwsalem lawn pryder. 10. Llysenwyd pedwerydd Sul y Garawys (canol y Garawys) yn Sul Ymborth, am y byddai’r ymprydwyr yn cymryd bwyd. Cyfeiriai’r Epistol ar y Sul hwnnw at yr Eglwys fel mam. Mae’n debyg mai dyna pam y dechreuodd pobl roi diolch am eu mamau eu hunain y diwrnod hwnnw a chymryd gwyliau prin i ymweld â hwy. Daethpwyd i adnabod y Sul fel Sul y Fam.
Entered By Anna Morrell - 16.02.10
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

